Croeso i wefan Ffederasiwn Ysgol Dyffryn Dulas ac Ysgol Pennal.

Mae’r ddwy ysgol o fewn y Ffederasiwn yn darparu amgylchedd diogel ac ysgogol lle gall yr holl ddisgyblion aeddfedu a dysgu. Rydym yn darparu ystod eang o gyfleoedd ar gyfer yr holl ddisgyblion. Cyfleoedd sydd nid yn unig yn ateb eu gofynion addysgol ond sydd hefyd yn eu cynorthwyo i ddatblygu’n unigolion annibynnol a chyfrifol. Byddent yn cael eu hannog i gyrraedd a’u llawn potensial a hynny o fewn ethos o gydweithredu a goddefgarwch. Ein prif nod yw sicrhau fod pob unigolyn yn cyrraedd ei lawn potensial a hynny o fewn amgylchedd ysgogol a gofalgar.

Mae’r ddwy ysgol leol yn cydweithio o fewn Ffederasiwn effeithiol. Mae staff yn y ddwy ysgol yn cyd cynllunio, rhannu arbenigedd ac yn rhannu arfer dda. Mae hyn wedi cael effaith cadarnhaol iawn ar safon y dysgu ac addysgu ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion cydweithio ar brosiectau amrywiol ar y cyd gan ehangu’u cylch o ffrindiau.

Mrs Nia Wyn Thomas-Evans
Pennaeth Strategol